
Mae'r dudalen hon yn rhoi trosolwg o'r dysgu proffesiynol a'r gefnogaeth sydd ar gael gan CCD ar gyfer eich taith fel Cynorthwyydd Addysgu ac arweinydd dysgu.
Mae Addysg yng Nghymru: cenhadaeth ein cenedl (2017)) yn nodi er mwyn i Gymru gyflawni ‘tegwch a rhagoriaeth i bawb“... mae angen gweithlu addysg o safon uchel sy’n egnïol ac yn frwdfrydig, ac sydd wedi ymrwymo i sicrhau dysgu parhaus i bawb.”
Pa Ddysgu Proffesiynol (DP) sydd ar gael i chi?
Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol
Rhaglen Sefydlu CAau
Mae 2 restr chwarae a gynlluniwyd ar gyfer cynorthwywyr addysgu sydd newydd eu penodi. Y rhaglen hon yw'r cam cyntaf ar y TALP (Llwybr Dysgu Cynorthwywyr Addysgu). Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i'ch cefnogi wrth i chi lywio'ch ffordd drwy'ch blwyddyn gyntaf o fod yn gynorthwyydd addysgu.
Cliciwch yma i gael mynediad at y rhestr chwarae.
Rhaglen Datblygu CAau Wrth eu Gwaith
Mae’r rhaglen 2 ddiwrnod hon ar gyfer cynorthwywyr addysgu a fyddai’n croesawu diweddariad ar gyd-destun newidiol y proffesiwn. Y rhaglen hon yw'r cam nesaf yn eich taith dysgu proffesiynol yn dilyn y rhestri chwarae Sefydlu.
Am wybodaeth bellach cliciwch yma
Rhaglen Ddatblygu Anelu at CALU
Bwriad y rhaglen hon yw cefnogi’r Cynorthwywyr Addysgu mwyaf profiadol sy’n dymuno datblygu eu sgiliau ymhellach a nodi eu parodrwydd ar gyfer Asesiadau CALU. Mae'n rhaglen 45 diwrnod a ddarperir dros 2 thymor.
Asesiad CALU
Ar ôl cwblhau'r rhaglen ddatblygu darpar CALU hon yn llwyddiannus, mae CAau mewn sefyllfa gref iawn i nodi eu parodrwydd ar gyfer asesiad CALU. Rhoddir statws CALU i'r rhai sy'n llwyddiannus yn eu hasesiad.
Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysg
Mae'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu wedi'u cynllunio i gefnogi CAau i fod y gorau y gallant fod, gan adlewyrchu arfer sy'n gyson â gwireddu'r Cwricwlwm i Gymru.
Trwy’r pasbort dysgu proffesiynol, mae ymarferwyr yn gallu cofnodi eu gweithgareddau dysgu proffesiynol.
Cefnogaeth bwrpasol
Mae CCD yn croesawu ceisiadau am gefnogaeth bwrpasol gan ysgolion a chlystyrau. Cysylltwch â Rebecca Roach am wybodaeth.
Cadwch i fyny â'r wybodaeth ddiweddaraf
Tanysgrifiwch i restr bostio Consortiwm Canolbarth y De am ddiweddariadau wythnosol trwy ein bwletin ysgol.
Diweddariadau wythnosol Llywodraeth Cymru ar y sector addysg a hyfforddi yng Nghymru trwy gylchlythyr Dysg.
Am fwy o gefnogaeth ac arweiniad, cysylltwch â:
Swyddog Cymorth Prosiect: Matthew Robbins
Cydlynwyr TALP: Ceri Bloom
Ymgynghorydd Cysylltiol ar gyfer Gyrfa Gynnar a TALP: Rebecca Roach