Cymraeg


Croeso cynnes i dudalen Y Gymraeg.

Yma, byddwch yn canfod cyfleoedd dysgu proffesiynol, gwybodaeth ac arweiniad, adnoddau a gwybodaeth werthfawr o ran y Gymraeg yng Nghonsortiwm Canolbarth y De (CCD).

Mae CCD yn ymrwymedig i hyrwyddo'r iaith Gymraeg ac i gefnogi pob ysgol ar draws y rhanbarth i ddatblygu pob agwedd o’r Gymraeg.

Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd!

Mae 'Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr' yn nodi ein huchelgais o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’n cynnwys targedau i gynyddu nifer yr athrawon sy’n gymwys i addysgu’r Gymraeg fel pwnc a phynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae hefyd yn amlinellu’r weledigaeth ar gyfer datblygu sgiliau Cymraeg pob dysgwr 3 i 16 oed fel rhan o'r Cwricwlwm i Gymru i’w galluogi i ddefnyddio’r iaith mewn cyd-destunau bob dydd.

Y flwyddyn 2050: Mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu, mae nifer y siaradwyr wedi cynyddu i filiwn a chaiff ei defnyddio ym mhob agwedd ar fywyd. Ymhlith y rheini nad ydynt yn ei siarad mae yna ewyllys da tuag ati ac ymdeimlad o berchnogaeth ohoni. Mae yna werthfawrogiad hefyd o’i chyfraniad i ddiwylliant, cymdeithas ac economi Cymru.- Cymraeg 2050 – Miliwn o Siardwyr (Llywodraeth Cymru 2017, tud.4)

Mae CCD yn darparu:

Rhestr Chwarae – Cefnogaeth i ysgolion ar gyfer y Gymraeg:

Bwriad y rhestr chwarae hon ydy cefnogi ysgolion ar eu taith i ddatblygu a gwella pob agwedd o Gymraeg. Gyda threftadaeth gyfoethog ieithyddol a diwylliannol Cymru yn sail iddi, mae'n amlygu cynnig dysgu proffesiynol CCD, adnoddau gwerthfawr, rhwydweithiau, cymunedau a chefnogaeth bwrpasol, sydd i gyd ar gael heb unrhyw gost i ysgolion.

Bydd y rhestr chwarae yn cael ei diweddaru yn rheolaidd. Rhannwch hi yn eang gyda chydweithwyr os gwelwch yn dda.

Beth yw'r Siarter Iaith / Siarter Iaith Cymraeg Campus?

Mae 97% o ysgolion o bob sector yn rhanbarth Consortiwm Canolbarth y De wedi ymrwymo i Fframwaith y Siarter Iaith.

Rydym ni am ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd. Mae’r Siarter Iaith i bawb a gall pob aelod o gymuned yr ysgol gymryd rhan, cyngor yr ysgol, dysgwyr, y gweithlu, rhieni, gofalwyr, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach. Mae hyn yn sicrhau bod gan bob ysgol berchnogaeth lawn ar eu Siarter Iaith. Gyda’n gilydd fe wnawn ni gynyddu defnydd cymdeithasol plant a phobl ifanc o’r Gymraeg.

Mae’r Siarter Iaith ar waith mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ledled Cymru. Yn ogystal mae rhaglenni eraill ar gyfer dysgwyr:

Cymerwch olwg ar y fideo yma sy’n egluro'r Siarter Iaith. Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael ar HWB.

Mae CCD yn cefnogi ysgolion ym mhob sector gyda phob agwedd o’r Gymraeg, heb unrhyw gost i ysgolion. Cysylltwch â ni heddiw drwy eich Partner Gwella neu support@cscjes.org.uk i drafod eich gofynion.


Swyddogion

Swyddog Cymorth Prosiect: Beverley Blackburn

Ymgynghorydd Cysylltiol - Dysgu Proffesiynol Iaith Gymraeg: Emma Dermody

Ymgynghorydd Cysylltiol - Datblygu'r Gymraeg: Bethan Davies

Mae gwybodaeth am ddysgu proffesiynol a cefnogaeth CCD o ran Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu Cymraeg yma.

Cofrestrwch ar gyfer Bwletin Ysgolion CCD a dilynwch ni ar X @CSC_Cymraeg / @CSCSiarterIaith ac Instagram @CSCCymraegCCD

Mae CCD Cymraeg yma i’ch cefnogi. Diolch yn fawr am ymweld â’n tudalen we.


Meysydd Dysgu Proffesiynol Eraill